Busnes meithrin llwyddiannus o Fargam yn elwa ar fanteision prentisiaethau

Postiwyd ar gan Events Team


English | Cymraeg

Perchennog Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks Vicky Williams (canol) gyda'r prentisiaid Kirsty Moores, Adriana Holland, Melissa Johnson a Leanne Edwards.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn rownd derfynol Cyflogwr Bach y Flwyddyn.

Mae’r gallu i gynnig prentisiaethau wedi helpu darparwr gofal plant Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks i recriwtio a chadw staff o safon uchel a thyfu’r busnes i dri lleoliad yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Ar hyn o bryd mae gan y cwmni, sydd â lleoliadau ym Margam a Chwmafan, bum prentis yn ei weithlu o 22. Mae TSW Training yn darparu Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gwaith Chwarae yn y feithrinfa.

‌Mae Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn rownd derfynol Cyflogwr Bach y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

“Mae’r rhaglen brentisiaethau yn rhan annatod o ddatblygiad ein tîm,” meddai Vicky Williams, perchennog y busnes, sy’n canmol y bartneriaeth agos gyda TSW Training.

“Roedd cael sylfaen gref o staff medrus a chymwys iawn yn amlwg yn yr adroddiad arolygu cadarnhaol a gawsom gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Rydym yn benderfynol o barhau i dyfu mewn niferoedd a gwella ein safonau hyd y gellir rhagweld.”

Cenhadaeth Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks yw darparu gofal plant fforddiadwy o ansawdd mewn amgylchedd cartrefol lle mae plant, rhwng dwy a 12 oed, yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu a’u herio i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae’r holl staff wedi cyflawni neu’n gweithio tuag at gymwysterau sy’n berthnasol i’w rôl – o Brentisiaeth Sylfaen hyd at Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) a lefel gradd.

Mae pob prentis presennol wedi cwblhau cyrsiau Prentis-Iaith i ddatblygu eu hyder i siarad Cymraeg yn y gweithle. Maent hefyd yn ymchwilio i’r arferion gofal plant diweddaraf ac yn rhannu ffyrdd newydd o weithio gyda’u cydweithwyr, fel rhan o ffocws y feithrinfa ar arloesi.

Yn enillydd pum Gwobr Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn 2022, arhosodd Tiddlywinks ar agor trwy gydol pandemig Covid-19 i gefnogi gweithwyr allweddol, gan gyflogi hyfforddwr arbenigol i sicrhau iechyd a lles staff.

Mae’r cwmni’n trefnu i blant chwarae gemau a chanu i’r henoed mewn tri chartref nyrsio lleol, gan hybu lles ac addysg y ddau grŵp.

Dywedodd Sarah Elston, cyfarwyddwr ansawdd TSW Training: “Mae dull Tiddlywinks o fuddsoddi yn eu staff a’u datblygu wedi galluogi’r sefydliad i dyfu a gwella’n barhaus yn ei gefnogaeth a’i effaith ar y gymuned leol.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —