Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi ystod newydd gyffrous o gymwysterau 14-16

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ysgol Gyfun David Hughes

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar y mathau o gymwysterau a fydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed – ochr yn ochr â’r TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.

Bydd y newidiadau a fydd yn llywio maes cymwysterau ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd ar draws y wlad yn golygu cyflwyno cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) newydd sy’n gysylltiedig â gwaith, yn ogystal â chymwysterau newydd sy’n seiliedig ar sgiliau.

Bydd hyn yn cynnig cymwysterau newydd arloesol, cyffrous, cynhwysol a heriol i bob dysgwr, â’r cymwysterau hynny’n cwrdd â nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru.

Pryd fydd dysgwyr yn dechrau dilyn y cymwysterau hyn?

Bydd yr ystod lawn o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16 ar gael erbyn Medi 2027, a bydd yn cynnwys cymwysterau TGAU, TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd), cymwysterau Sylfaen, Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd, a chymhwyster Prosiect Personol.

Cyflwynir cymwysterau TGAU newydd mewn 2 gyfnod yn 2025 a 2026, gyda’r pynciau TGAU newydd yn cymryd mwy o amser i’w datblygu na’r pynciau presennol. Bydd TGAU Iaith Arwyddion Prydain, TAAU, cymwysterau Sgiliau a chymwysterau Sylfaen yn cael eu cyflwyno yn 2027, a bydd ysgolion, athrawon a dysgwyr yn cael eu cefnogi drwy’r cyfnod pontio.

Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:

“Yr ystod gyffrous hon o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, ynghyd â’r TGAU newydd sydd eisoes yn cael eu datblygu, yw’r trawsnewidiad mwyaf o ran cymwysterau 14-16 mewn cenhedlaeth. Bydd yn golygu y bydd ein holl ddysgwyr, beth bynnag fo’u diddordeb, eu dawn neu eu gallu, yn gallu cael cydnabyddiaeth a gwobr am yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Gyda’r cymwysterau newydd hyn, byddan nhw’n gallu symud ymlaen o’r Cwricwlwm i Gymru i’r cam dysgu nesaf a chreu sylfaen ar gyfer eu llwyddiant personol eu hunain.”

Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:

“Mae datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol o’r pwys mwyaf i’r gweithlu a’r economi yng Nghymru yn y dyfodol. Mae busnesau bach yn tynnu sylw’n gyson at y ffaith bod mynediad at sgiliau yn rhwystr i dwf. Mae ein hymchwil yn dweud wrthym fod cysylltiadau agosach rhwng darparwyr, y gymuned fusnes, a sefydliadau addysgu yn gallu bod o fudd gwirioneddol i ddeilliannau dysgwyr, yn ogystal â chefnogi busnesau i harneisio’r sgiliau cywir i dyfu, a thrwy hynny hybu economïau lleol.

Ein gobaith yw y bydd y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn cyfrannu rhywfaint at wella’r dewisiadau i ddysgwyr. Drwy ategu’r cwricwlwm â phrofiadau bywyd go iawn a rhyngweithio â busnesau bach yn y gymuned leol, bydd y cymwysterau hyn yn helpu dysgwyr i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu a gwaith.”

Back to top>>

More News Articles

  —