Grŵp Clwstwr Diwydiant gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol
Ydych chi wedi bod yn meddwl tybed beth yw grŵp clwstwr diwydiant gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol? Hoffech chi wybod pam y dylech ymuno â’r grwpiau hyn a sut y gallant eich helpu chi a’ch busnes? Os felly, bydd gennych ddiddordeb yn ein llyfryn hyrwyddo newydd sy’n rhoi sylw i weledigaeth y Bartneriaeth, y manteision, a sut mae’n gweithio.
Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP) yn bartneriaeth strategol sy’n gweithio i wella a hyrwyddo sgiliau a hyfforddiant yn y rhanbarth, ar sail anghenion lleol a rhanbarthol.
Mae angen llais diwydiant arnom, a gobeithio y gwnewch chi ystyried ymuno â grŵp brwdfrydig o unigolion a busnesau sy’n awyddus i newid y dirwedd sgiliau a datblygu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Os hoffech wybod rhagor, lawrlwythwch ein llyfryn isod.
Dyma’ch cyfle i fod yn rhan o bartneriaeth ddeinamig a dylanwadol a all wneud gwahaniaeth i chi a’ch rhanbarth! Os hoffech ymuno â grŵp clwstwr ebostiwch smnicholls@sirgar.gov.uk i roi’ch enw ar y rhestr wahoddiadau.
Cymraeg: https://online.flipbuilder.com/itet/mhwe/
Saesneg: https://online.flipbuilder.com/itet/dejf/
More News Articles
« Prentis yn magu hyder ac yn canfod llwybr gyrfa newydd drwy brentisiaeth — Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi ystod newydd gyffrous o gymwysterau 14-16 »