Ymgyrch i reoleiddio’r diwydiant trin gwallt yn cyrraedd y Senedd

Postiwyd ar gan karen.smith

Bydd ymgyrch genedlaethol i annog pawb sydd â chymwysterau trin gwallt neu waith barbwr i sicrhau cofrestriad gwladol yn cyrraedd y Senedd ar nos Fercher, 5 Chwefror. Y nod yw rheoleiddio a phroffesiynoli’r diwydiant.

Ar hyn o bryd, caiff unrhyw un gychwyn busnes trin gwallt yn y Deyrnas Unedig a gweithio gyda chemegion a all fod yn beryglus, heb fod ganddynt gymwysterau. Nod yr ymgyrch yw ei gwneud yn orfodol i bawb sydd â chymwysterau trin gwallt neu waith barbwr sicrhau cofrestriad gwladol er mwyn dangos i’w cwsmeriaid eu bod mewn dwylo diogel.

Cynhelir derbyniad yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, ar noson 5 Chwefror er mwyn rhoi gwybod i’r Gweinidogion ac Aelodau’r Cynulliad am ymgyrch y Cyngor Trin Gwallt i wneud cofrestriad gwladol yn orfodol.

Noddir yr achlysur gan AC Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay a gwahoddir Aelodau’r Cynulliad i lofnodi Datganiad Barn i gefnogi’r ymgyrch i wneud cofrestriad gwladol yn orfodol. Bydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, yn bresennol ynghyd â chynrychiolwyr o’r diwydiant trin gwallt a harddwch.

Ymhlith y siaradwyr yn yr achlysur yn y Senedd fydd Shirley Davis-Fox sy’n aelod o’r Cyngor Trin Gwallt ac yn gadeirydd ISA Training o Ben-y-bont ar Ogwr, sef darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru ym maes trin gwallt a harddwch. Hi sy’n arwain yr ymgyrch, a aeth o nerth i nerth y llynedd, gan sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol gan Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Cymreig yn San Steffan.

Un arall a fydd yn bresennol yw’r seren drin gwallt, Warren Holmes, sy’n frwd o blaid cofrestru gwladol.

Mae Mrs Davis-Fox wedi ymweld â salonau a cholegau addysg bellach ledled Cymru, wedi lobïo ACau yn y Senedd ac yn eu hetholaethau ac wedi mynd â’i hymgyrch i’r Senedd yn Llundain. Mae Nia Griffiths, AS Llanelli, wedi cytuno i arwain un o ddadleuon Neuadd San Steffan ar gofrestru gwladol.

Arweiniodd Keith Davies, AC Llanelli, ddadl hanner awr yn y Senedd ym mis Tachwedd yn cefnogi cofrestru gwladol gorfodol ar gyfer pobl trin gwallt a barbwyr ac mae Simon Thomas, AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, yn galw ar i hyfforddwyr, tiwtoriaid ac addysgwyr mewn ysgolion a cholegau a gyda darparwyr hyfforddiant i gael cofrestriad gwladol er mwyn codi safonau.

Yn ogystal, mae Mrs Davis-Fox wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn gofyn iddo gynnwys trin gwallt a gwaith barbwr yn ymchwiliad Llywodraeth Cymru i’r diwydiant harddwch ehangach yn dilyn adolygiad Keogh o’r diwydiant harddwch.

Dywed ei bod yn ymddangos yn afresymegol bod artistiaid tatŵio a thyllu cosmetig yn gorfod cael eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol cyn y cânt agor busnes, ond y caiff unrhyw un agor salon trin gwallt a thrafod cemegau ac offer a all fod yn beryglus, hyd yn oed heb gymwysterau.

Mae’n dweud bod cofrestru gwladol gorfodol ar gyfer pobl trin gwallt a gwaith barbwr cymwysedig yn gam hanfodol ar y ffordd i gael cydnabyddiaeth a pharch cyffredinol i’r proffesiwn.

“Dylai trin gwallt a gwaith barbwr gael ei drin fel proffesiynau eraill sydd â chofrestr o ymarferwyr cymwys,” meddai. “Yna, byddai pobl yn gwybod bod y sawl sy’n trin eu gwallt wedi cael ei hyfforddi i’r safon ofynnol a byddai’n golygu bod trin gwallt a gwaith barbwr ym Mhrydain yn cael ei drin fel y mae mewn gwledydd eraill lle mae’n cael ei reoleiddio eisoes.”

Pwysleisiodd fod trin gwallt yn cyfrannu £5 biliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig ac yn cyflogi 245,000 o bobl.

Ac mae Mrs Davis-Fox yn gwneud yn ogystal â dweud. Mae ISA Training yn talu am gofrestriad gwladol yr holl ddysgwyr sy’n cwblhau Prentisiaethau lefel tri mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr am y flwyddyn gyntaf. Mae pob aelod o staff sy’n hyfforddi pobl ar gyfer cymwysterau trin gwallt hefyd wedi sicrhau cofrestriad gwladol.

Gofynnir i salonau, trinwyr gwallt, colegau a gwleidyddion sydd â diddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch o blaid cofrestru gwladol gysylltu â Mrs Davis-Fox ar 0845 301 8660.

More News Articles

  —