Comisiynydd am Alw ar Gyflogwyr Cymru i Fuddsoddi mewn Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

Scott Waddington

Mae gan Scott Waddington, Comisiynydd Cymru i Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, genhadaeth bwysig: annog rhagor o gyflogwyr i fuddsoddi yn sgiliau eu gweithwyr er mwyn hybu menter, swyddi a thwf.

Bydd Mr Waddington, sydd hefyd yn brif weithredwr y cwmni bragu a manwerthu llwyddiannus o Gaerdydd, SA Brain and Co Ltd, yn galw ar aelodau NTfW i ymateb i anghenion busnesau Cymru yn ein anerchiad yng Nghynhadledd Flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn Venue Cymru ar Hydref 24.

Mae NTfW yn rhwydwaith o 116 o ddarparwyr dysgu yn y gweithle sydd â chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru. Mae’r aelodau’n cynnwys darparwyr hyfforddiant bach arbenigol, cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach a chyrff trydydd sector.

Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn bartneriaeth gymdeithasol, a arweinir gan gomisiynwyr o blith cyflogwyr bach a mawr, undebau llafur a’r sector gwirfoddol.

Penodwyd Mr Waddington yn Gomisiynydd Cymru ym mis Ebrill ac esboniodd: “Rwy’n gweld fy hun fel llefarydd, yn cyflwyno safbwyntiau cyflogwyr, hyfforddwyr ac eraill yng Nghymru, a’r materion sy’n eu poeni, er mwyn sicrhau bod cynlluniau’r Comisiwn ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant yn addas ar ein cyfer ni yng Nghymru.

“Yn ôl Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU, a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, er bod y rhan fwyaf o fusnesau yn buddsoddi yn sgiliau eu gweithwyr, mae tipyn o le i wella. Nid oedd dros 40% o fusnesau’r DU wedi buddsoddi mewn hyfforddiant dros y 12 mis diwethaf, ond mae’r ganran yn amrywio’n fawr o sector i sector.

“Ceir tystiolaeth gref bod busnesau nad ydynt yn hyfforddi eu staff ddwywaith yn fwy tebygol o fethu â busnesau sy’n buddsoddi mewn hyfforddiant. Yn ogystal â chynyddu eu helw, mae busnesau sy’n buddsoddi mewn sgiliau yn gwella iechyd y genedl.”

Yn awr, mae Comisiwn y DU yn holi pam nad oes gan bobl y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen. Mae cyflogwyr yn y DU yn cael trafferth llenwi un swydd o bob tair ar gyfer gweithwyr crefftus, yn cynnwys trydanwyr, plymwyr a chogyddion, am nad yw’r sgiliau angenrheidiol gan yr ymgeiswyr.

“Yn Lloegr, ceir cynlluniau radical i roi grantiau a benthyciadau yn uniongyrchol i gyflogwyr, yn hytrach na thrwy’r darparwyr, ar gyfer Prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol arall,” meddai Mr Waddington. “Byddai’r cyflogwyr yn buddsoddi symiau cyfatebol i’r grantiau neu’r benthyciadau hyn.

“Er bod pwysau ar Gymru a gwledydd eraill i ddilyn arweiniad Lloegr, rydym yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa ar hyn o bryd i weld sut mae pethau’n mynd. ”

Bydd Mr Waddington yn cyflwyno gwobr Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau a Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol yn Venue Cymru, Llandudno nos Fercher.

Ymhlith y siaradwyr eraill yn y gynhadledd ddeuddydd bydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert; Barry Liles, Hyrwyddwr WorldSkills yng Nghymru, a fydd yn sôn am werth cystadlaethau o safon fyd-eang; Huw Evans, cadeirydd Bwrdd Prosiect yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru, a fydd yn rhoi adroddiad ar hynt yr adolygiad, yr Arglwydd Ted Rowlands, Llywydd NTfW ac Arwyn Watkins, prif weithredwr NTfW.

Os hoffech gadw lle yn y gynhadledd ddeuddydd, cysylltwch â Karen Smith, rheolwr cyffredinol NTfW ar: 029 2061 8228 neu: Karen.Smith@ntfw.org

More News Articles

  —