Heledd, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru, yn “chwa o awyr iach”

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Heledd at Royal Welsh Showground

Heledd Roberts, sydd ar y rhestr fer yng nghategori Talent Yfory.

Mae’r Prentis Uwch Heledd Roberts wedi cael ei disgrifio fel “chwa o awyr iach” ers ymuno â’r tîm prysur yn FUW Insurance Services Ltd dair blynedd yn ôl.

Dyna eiriau Caryl Roberts, rheolwr datblygu busnes y cwmni, a ddywedodd: “Mae Heledd wedi bod yn gaffaeliad eithriadol i’n sefydliad, ac mae wedi cael cryn effaith ar amcanion a pherfformiad cyffredinol ein tîm.

“Mae’n barod i herio a moderneiddio rhai prosesau sydd wedi ennill eu plwyf ac mae ganddi awydd mawr i gyflwyno dulliau newydd o ddatrys problemau.”

Mae Heledd, sy’n 24 oed ac yn dod o Gaerfyrddin, nawr wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Talent Yfory.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Ymunodd Heledd â FUW Insurance Services Ltd, prif frocer yswiriant amaethyddol arbenigol y Deyrnas Unedig, yn ystod y pandemig, pan helpodd i ymdrin â sawl swyddfa ar draws y busnes.

Oherwydd ei brwdfrydedd i ddysgu ac ysgogi eraill, mae wedi cafodd ei dyrchafu o fod yn swyddog trin cyfrifon i fod yn brif swyddog trin cyfrifon yng Ngogledd Cymru ac ar hyn o bryd mae’n llenwi swydd swyddog gweithredol cyfrifon yn swyddfa Rhuthun sydd ar gyfnod mamolaeth.

Cwblhaodd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn ac mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) Yswiriant Cyffredinol,
gyda’r ddwy brentisiaeth yn cael eu darparu gan ALS Training.

Mae Heledd wedi cynyddu effeithlonrwydd busnes a phroffidioldeb trwy arwain prosiect i gyflwyno proses e-fasnach electronig. Mae hi hefyd wedi darparu arbenigedd gwerthfawr ar brosesau archwilio mewnol ac wedi helpu gyda digwyddiadau marchnata a chodi arian.

Mae hi hefyd yn ffynnu fel mentor i staff newydd ac mae ei hegni a’i brwdfrydedd yn gwneud eu y profiad o ymuno â’r diwydiant yswiriant yn un cadarnhaol .

“Rwy’n gredwr mawr mewn effeithlonrwydd a chyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau sydd nid yn unig yn helpu’r busnes ond sy’n helpu’r staff hefyd,” meddai Heledd. “Rwy’n mwynhau fy ngwaith yn fawr, yn enwedig ochr reoli’r swydd a hoffwn sicrhau swydd barhaol fel swyddog gweithredol cyfrifon mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.”

Dywedodd ymgynghorydd hyfforddi Heledd, Gareth Lewis, o ALS Training fod ei thalent yn disgleirio o’r eiliad y ddechreuodd ei phrentisiaeth.

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Heledd a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:
“Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —