Toriadau i brentisiaethau’n bygwth dyfodol y sector gofal iechyd yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Medical, doctor and nurse fist bump with hands together to show support and wellness community.

NTFW yn rhybuddio y bydd toriadau i brentisiaethau’n cael canlyniadau difrifol i’r sector gofal iechyd.

Rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru y bydd toriadau llym i’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru’n cael effaith ddifrifol ar ofal cleifion a gofal preswyl.

Gallai toriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i’r gyllideb brentisiaethau, ynghyd â cholli cyllid Ewropeaidd, arwain at golli bron chwarter (24%) y rhaglen yn 2024-25, yn ôl darparwyr hyfforddiant a gofal iechyd a sefydliadau addysg ledled Cymru.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a CholegauCymru eisoes wedi rhybuddio am yr effaith drychinebus a di-droi’n-ôl y byddai’r toriadau hyn yn ei chael ar brentisiaethau yng Nghymru. Amcangyfrifant y bydd nifer y bobl sy’n dechrau prentisiaethau o’r newydd yn 2024-25 yn cael ei haneru i 10,000.

Mae’r ffigurau diweddar yn datgelu’r effaith bosibl ar y sector gofal iechyd yng Nghymru, sy’n wynebu gostyngiad o 69% mewn cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau ar adeg pan na fu’r heriau o ran y gweithlu erioed yn fwy.

Y rheswm dros hyn yw bod y rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n dechrau prentisiaeth mewn gofal iechyd dros 25 oed ac y bydd cyllid Llywodraeth Cymru’n cael ei flaenoriaethu ar gyfer dysgwyr iau.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud:
“Bydd aliniad rhwng y ffordd yr ydym ni’n gwario ein harian prentisiaeth a’n gwarant i bobl ifanc i wneud yn siŵr bod pobl ifanc sydd angen y dechrau hwnnw yn eu gyrfaoedd yn parhau i’w dderbyn yma yng Nghymru.”

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, sy’n gyfrifol am gyllideb prentisiaethau, wedi adleisio hynny trwy ddweud:
“Byddant (y prentisiaethau) yn parhau i gefnogi ein gwarant i bobl ifanc, gan helpu pobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd, a bydd busnesau’n dal i allu recriwtio prentisiaid i ddod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu eu staff eu hunain.”

Yn ôl dadansoddiad a wnaed yn ddiweddar gan NTFW, os bydd Llywodraeth Cymru’n blaenoriaethu pobl ifanc o dan 25 oed, efallai na fydd cyfleoedd newydd am brentisiaethau o gwbl i rai 25 oed a throsodd yn 2024-25.

Dywed yr NTFW, sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru, y bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar bob sector yn economi Cymru, ac mai gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus fydd yn wynebu’r canlyniadau gwaethaf.

Amcangyfrifir y bydd 5,500 yn llai o brentisiaid yn y sector hwn, sy’n sector blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, gofal iechyd clinigol, nyrsio deintyddol, a gofal, dysgu a datblygiad plant.

Dywed yr NTFW ei bod yn eironig mai’r sector Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd wedi’i flaenoriaethu yn y gyllideb ddrafft trwy fuddsoddiad ychwanegol o £929m, yw’r union sector a gaiff ei effeithio waethaf gan y toriad o £38m i gyllideb prentisiaethau.

Gan dyrchu’n ddyfnach, dywed yr NTFW mai iechyd a gofal cymdeithasol fydd yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn cyfleoedd, gyda dros 3,000 yn llai o brentisiaid yn 2024-25. Daw hyn ar adeg pan fo’r gweithlu gofal cymdeithasol eisoes mewn argyfwng, yn ôl arweinwyr y GIG yng Nghymru.

Canfu arolwg yn 2022 gan Gonffederasiwn y GIG, corff aelodaeth cenedlaethol sy’n cynrychioli’r holl sefydliadau sy’n rhan o’r GIG yng Nghymru, fod holl benaethiaid y gwasanaeth iechyd yn cytuno bod argyfwng yn y gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae Conffederasiwn y GIG yn dweud bod yr argyfwng gofal cymdeithasol yn effeithio ar bob un rhan o’r GIG, o wasanaethau ambiwlans ac adrannau argyfwng i ofal dewisol, diagnosteg, meddygon teulu, gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymunedol.

Ategwyd hyn gan ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd a ddaeth i’r casgliad yn ddiweddar: “Mae argyfwng y gweithlu gofal cymdeithasol a’r diffyg capasiti yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal yn un o’r prif achosion dros yr oedi cyn rhyddhau pobl o’r ysbyty.”

Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton:
“Mae’r NTFW yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau arfaethedig i brentisiaethau ac i gynnal deialog adeiladol er mwyn canfod datrysiad ymarferol a fydd yn cefnogi’r sector gofal iechyd ac economi ehangach Cymru.”

Mae darparwyr gofal iechyd a hyfforddiant ledled Cymru yn galw hefyd am adolygiad brys o’r penderfyniad, gan bwysleisio’r angen am gyllid cynaliadwy i ddiogelu dyfodol gwasanaethau gofal iechyd.

Mae Innovate Trust, elusen sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw’n annibynnol yn y gymuned, wedi mynegi ei phryderon.

“O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, mae mwy o swyddi gweigion nag erioed,” meddai llefarydd. “Mae cyllid ar gyfer cymwysterau’n hollbwysig i ni fel elusen er mwyn sicrhau bod ein gweithwyr yn gwbl gymwys ac wedi’u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

“Byddai unrhyw doriadau i’n cyllid yn amharu ar ein gwaith. Mae Innovate Trust yn dibynnu’n fawr ar gymorth a chyllid er mwyn darparu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chynnal sgiliau ein gweithlu.”

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —