Prentis yn magu hyder ac yn canfod llwybr gyrfa newydd drwy brentisiaeth

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Digital Application Support Apprentice with ACT

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rydym yn tynnu sylw at yr effaith drawsnewidiol y gall dysgu seiliedig ar waith ei chael, nid yn unig ar y prentis ond ar y gweithle y maent ynddo.

Buom yn siarad ag Andrew Walton o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ei gymhwyster Cymorth Gweinyddu Digidol, i ddarganfod pam y dewisodd y llwybr penodol hwn a sut y mae wedi hybu ei ddilyniant proffesiynol.

Buom hefyd yn siarad â rheolwr Andrew, yr Arweinydd Gofalwyr Suzanne Becquer-moreno, am y newidiadau cadarnhaol y mae Andrew wedi’u cyflwyno i’r tîm.

Gadawodd Andrew y brifysgol yn dilyn diagnosis ADHD, gan ganfod nad oedd y fformat astudio yn cyd-fynd â’r ffordd yr oedd yn gweithio. Ar ôl gadael, roedd am gael swydd ond nid oedd yn hyderus i neidio’n syth i’r amgylchedd hwnnw heb hyfforddiant.

Meddai Andrew: “Er fy mod yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o swyddi yn cynnig hyfforddiant ar ôl i chi ymuno, roeddwn i eisiau gwella fy sgiliau mewn ystyr ehangach yn hytrach na dysgu sut i wneud pethau mewn un cwmni neu sefydliad. O ganlyniad, prentisiaeth oedd yr opsiwn delfrydol i mi. Yma byddwn yn gallu gweithio ar fy hun – fy hyder, sgiliau a disgyblaeth – a bod mewn amgylchedd gwaith ar yr un pryd.”

Cafodd ei ddenu i’r GIG ar ôl cael cymorth gan ei feddyg teulu yn ei arddegau, ac ar ôl cyfweliad cychwynnol gyda’i ddarpar reolwr roedd yn gwybod ei fod wedi gwneud y dewis cywir.

Ychwanegodd Andrew: “Ar ôl cyfarfod â Suzie yn y cyfweliad, roeddwn i’n gwybod fy mod wedi dod o hyd i’r lle iawn i mi gael profiad mewn amgylchedd gwaith ac i ddysgu a thyfu fel unigolyn. Ni allwn fod wedi gofyn am le gwell i gwblhau fy mhrentisiaeth.”

Ers gweithio yn BIPCAF, mae Andrew wedi gweld bod ei hyder a’i gyfathrebu yn cynyddu, a chanfod bod ei dîm yn ddeallus ac yn barod i addasu o ran anawsterau’n ymwneud â’i ADHD.

Yn ei dro, mae Andrew wedi gallu rhoi cipolwg newydd i’r tîm ar ochr ddigidol eu gwaith trwy ei gymhwyster Cymorth Cymwysiadau Digidol.

Mae’r brentisiaeth DAS wedi’i chynllunio ar gyfer unrhyw ddysgwr sy’n gweithio mewn swyddfa ddigidol sy’n defnyddio systemau cwmwl fel Microsoft 365 neu Google for Business. Ei nod yw rhoi gwell dealltwriaeth o’r feddalwedd y maent yn ei defnyddio bob dydd a chael y gorau ohono.

Meddai Andrew: “Rydw i wedi gallu manteisio ar fy nghryfderau i gyflawni’r tasgau a roddwyd i mi. Rwyf wedi helpu timau i ddatblygu SharePoint a thudalennau rhyngrwyd, wedi’u cefnogi gyda phrosiectau llai fel MS Forms, MS Excel ac MS Teams.

“Mae’r gwerthfawrogiad a ddangoswyd gan y timau hyn ar ôl i mi orffen eu helpu wedi rhoi hwb aruthrol i’m hyder ac wedi fy sicrhau bod fy ngwaith yn ddefnyddiol.”

Wrth siarad am effaith gwaith Andrew o fewn y tîm, ychwanegodd y rheolwr Suzanne:

“Daeth Andrew nid yn unig â sgiliau digidol i’r tîm nad oedd gennym o’r blaen, ond hefyd safbwynt newydd ar sut y gallwn weithio a chyfathrebu’n fwy effeithiol fel tîm.

“Mae Andrew wedi gallu cefnogi aelodau o staff nad ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus yn defnyddio technoleg ddigidol, gan ganiatáu iddyn nhw deimlo’n hyderus wrth gael mynediad at offer sydd wedi gwella profiad y claf, a’r ffordd rydyn ni wedi gallu casglu adborth ystyrlon.

“Yn ogystal, rydym wedi gweld hyder Andrew yn cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf o ran ei allu yn y rôl a’i sgiliau cyfathrebu. Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Andrew, am ei fod yn ymgorffori gwerthoedd y bwrdd iechyd sy’n amlwg mewn adborth gan aelodau ei dîm, ei gydweithwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.”

Er gwaethaf darparu cyfleoedd prentisiaeth yn y gorffennol, roedd rôl Cymorth Gweinyddu Digidol yn newydd i’r tîm.

Dywedodd Suzanne: “Gwnaeth ein galluogi i esblygu’r rôl a chefnogi rhywun i feithrin sgiliau y gallent eu datblygu.

“Byddwn yn bendant yn argymell recriwtio prentis, maen nhw’n dod â brwdfrydedd mawr i’r gweithle, ynghyd â syniadau a ffyrdd newydd o weithio. Mae hefyd yn hyfryd gallu rhoi cyfle i rywun ddatblygu eu sgiliau a gweld cymaint y maent yn magu hyder trwy gydol y lleoliad.”

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —