Mae swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) wedi lansio ei Rhaglen Datblygu a Thwf Clwstwr, gyda chyllideb o £6.6 miliwn a’r nod yw meithrin arloesedd a datblygu’r economi ranbarthol ymhellach. Noddir y rhaglen ar y cyd gan Fargen Ddinesig P-RC a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn cefnogi gweithgareddau ehangu busnes a throsglwyddo gwybodaeth. Mae contractau i ddarparu ymyriadau wedi’u targedu ledled y rhanbarth wedi’u rhoi i dri asiant rheoli fel rhan o’r broses hon:
Y Rhaglen Sgiliau Digidol, Sero Net ac Uwch Gweithgynhyrchu yw’r prosiect cyntaf a fydd yn cael ei gynnal, a bydd yn cael ei gyfarwyddo gan Goleg Caerdydd a’r Fro a PWC
Enw’r ail fenter yw Rhaglen Partneriaeth y Diwydiant Academaidd, a bydd yn sefydlu rhwydwaith cadarn o wybodaeth academaidd. Mae’r prosiect hwn yn cael ei reoli gan Brifysgol De Cymru a 20 Degrees Consulting
Y Rhaglen Twf Busnes yw’r drydedd fenter, a’i diben yw cynorthwyo busnesau presennol i ehangu eu gweithrediada. Caiff ei harwain gan Grant Thornton.
Mae tîm y Fargen Ddinesig yn gyffrous am y posibilrwydd o wireddu potensial digyffwrdd y rhanbarth ar gyfer twf corfforaethol cynyddol, gwell amodau cymdeithasol a mwy o lwyddiant economaidd.
I ddarllen y Nodyn Briffio sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am bob elfen o’r Rhaglen Datblyu a Thwf Clwstwr cliciwch yma.