Cyfle i gwrdd â’r Prentisiaid sydd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol.

Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Mae’n rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Heddiw, cyflwynwn brentisiaid llwyddiannus a gaiff eu cydnabod â gwobrau mewn pedwar categori.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn

Mae parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb o dan amgylchiadau anodd wedi helpu Bethany Mason i ragori yn ei gwaith fel swyddog gwasanaethau profedigaeth.

Ers iddi ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel prentis swil yn 2016, mae Bethany, 21, wedi llwyddo i oresgyn nifer o heriau anodd, gan wneud gwahaniaeth enfawr i staff Amlosgfa Glyn-taf ger Pontypridd a’r teuluoedd galarus sy’n defnyddio’r amlosgfa.

Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen ac mae bron â chwblhau NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, y ddau gymhwyster wedi’u darparu gan Goleg y Cymoedd.

Yn ogystal, mae Bethany, o Lantrisant, wedi meithrin sgiliau arwain, wedi digideiddio a chanoli cofnodion claddu a chynlluniau mynwentydd Rhondda Cynon Taf ac wedi cyflwyno system ddigidol ar gyfer cerddoriaeth gwasanaethau amlosgi, ynghyd â gweddarllediadau a theyrngedau gweledol.

Stevie Williams o Grŵp Colegau NPTC sydd yn rownd derfynol am wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Mae Stevie Williams wedi rhoi’r gorau i’w swydd ym myd gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn gwneud prentisiaeth gan anelu at yrfa’i breuddwydion sef dysgu peirianneg.

Cafodd Stevie, 36, o’r Goetre, Port Talbot, swydd fel technegydd a hyfforddwr peirianneg fecanyddol gyda Grŵp Colegau NPTC ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Peirianneg Fecanyddol mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2) a Chymhwyster Cysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ), Lefel 2, chwe mis yn gynnar.

Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth a VRQ Lefel 3 gan fwriadu symud ymlaen i wneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) a Phrentisiaeth Radd er mwyn gwireddu ei huchelgais o fod yn ddarlithydd mewn peirianneg.
Mae’n gwneud ei phrentisiaeth gyda Pathways Training.

Mae Joel Mallison, prentis a cherddor, wedi taro’r nodyn ar ei ben wrth newid gyrfa gan ei fod yn gwneud yn ardderchog fel prentis gyda chwmni telathrebu Openreach.

Ar ôl mynd i astudio cerddoriaeth a graddio gyda rhagoriaeth mewn Cynhyrchu ar gyfer y Radio, bu Joel, 30, o’r Fenni, yn gweithio ym musnes paentio ac addurno ei dad am chwe blynedd cyn penderfynu newid gyrfa.

Gan fod ganddo ddiddordeb mewn telathrebu, aeth Joel at Openreach a chwblhau Prentisiaeth Sylfaen ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol mewn TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu fis Medi diwethaf. Darparwyd y brentisiaeth gan Openreach a’i chefnogi gan ALS Training, Caerdydd.

Prentis y Flwyddyn

Mae William Davies yn brentis sydd wedi arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr trwy awtomeiddio system cydosod cynnyrch.

Mae William, 20, o Lwydcoed, Aberdâr, yn gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed, sef busnes rhyngwladol sy’n arbenigo mewn systemau gweld
yn glir ar gyfer y diwydiant moduro.

Yn ogystal, mae wedi rhoi argraffydd newydd 3D Rapid Prototyping ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau awtonomaidd ac mae wedi gwneud gwelliannau ym meysydd Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant. Cwblhaodd William Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg) chwe mis yn gynt na’r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd lle’r enillodd ddwy wobr. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.

Dychmygwch pa mor gyffrous fyddai cael cyfle i greu a helpu i reoli negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cyfres deledu eiconig ar y BBC a chithau’n ddim ond 19 oed.

Owain Carbis o Gaerdydd sydd yn rownd derfynol am wobr Prentis y Flwyddyn.

Dyna’n union ddigwyddodd i Owain Carbis, bachgen dawnus o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, yn ystod ei brentisiaeth gydag adran ddigidol a marchnata BBC Cymru Wales.

Roedd fel gwireddu breuddwyd i Owain, sy’n weithiwr llawrydd erbyn hyn, gan ei fod wrth ei fodd â Doctor Who. Cafodd ei waith, a welwyd gan filiynau o bobl ym mhedwar ban byd, ganmoliaeth fawr gan rai o’i gydweithwyr profiadol yn y BBC.

Darparwyd Prentisiaeth Owain yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol gan Sgil Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Owen Lloyd yn brentis sy’n ymdrechu i ddatrys y problemau llifogydd sy’n poeni pobl Rhondda Cynon Taf a’i uchelgais yw rhagori fel peiriannydd sifil.

Mae Owen, 23, o Goed y Cwm, Pontypridd, yn gweithio i’r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Enillodd ragoriaeth yn ei gwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) yng Ngholeg Pen-y-bont, a’i nod yn y pen draw yw bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

Enillodd Owen Ysgoloriaeth ICE Quest a dyfarnwyd ef yn Brentis y Flwyddyn gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus ym maes Priffyrdd a Goleuo Strydoedd fis Hydref diwethaf.

Prentis Uwch y Flwyddyn

Ar ôl bod yn gweithio yn sector y celfyddydau perffornio yn Llundain am sawl blwyddyn, daeth Natalie Morgan yn ôl i Gymru i ddilyn gyrfa ym maes chwaraeon, ac fe gafodd swydd gyda Gymnasteg Cymru.

Aeth ymlaen i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Portal Training o Gaerdydd ac yn awr mae wedi symud ymlaen i Lefel 5.

Diolch i’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth, roedd modd i Natalie, 33, o Benarth, arwain prosiect llwyddiannus i gael merched ifanc a menywod o’r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn gymnasteg.

Lansiwyd y clwb gymnasteg gydag 11 o ferched, ond tyfodd i dros 130, gyda chynnydd o 98% yn nifer yr aelodau mewn dim ond 18 mis.

Rhyanne Rowlands o Cymorth i Fenywod RhCT sydd yn rownd derfynol am wobr Prentis Uwch y Flwyddyn.

Mae Prentisiaethau Uwch wedi helpu Rhyanne Rowlands i ddatblygu o fod yn wirfoddolwraig i fod yn swyddog llawn amser gyda Chymorth i Fenywod RhCT, gan arwain prosiectau llwyddiannus i gefnogi rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Roedd Rhyanne, 38, o Aberdâr, wedi dioddef cam-drin domestig ei hunan yn y gorffennol ac, ar ôl dechrau gwirfoddoli gyda Chymorth i Fenywod
yn 2016, erbyn hyn hi yw swyddog datblygu Safer Rhondda.

I ddechrau, dewisodd Rhyanne wneud prentisiaeth gyda’r darparwr dysgu, Educ8, er mwyn cael mwy o wybodaeth a hunanhyder. Erbyn hyn, mae wedi cwblhau Prentisiaethau Uwch Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad yn ogystal ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae wedi cymhwyso fel arbenigwraig mewn cam-drin domestig a symud ymlaen i Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar Lefel 5.

Rhyanne oedd yn gyfrifol am sefydlu a rhedeg prosiect Athena i helpu menywod dros 50 oed. Enillodd y prosiect wobr Tlws Crisial Cwm Taf yn 2018.

Mae Ciara Lynch yn gwneud ei marc ym maes adeiladu a pheirianneg sifil, diolch i’w gwaith ardderchog fel technegydd cynorthwyol gyda Chyngor Abertawe.

Eisoes, enillodd Ciara, 22, o Dreforys, HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig a Phrentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu yng Ngholeg Pen-y-bont.

A hithau wedi cael Ysgoloriaeth Quest gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), ei nod yn y pen draw yw bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig ac mae wedi dechrau ar radd mewn Peirianneg Sifil.

Mae Ciara, sy’n llysgennad gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), yn awyddus i hyrwyddo manteision prentisiaethau, gan dynnu sylw at gyfleoedd i fenywod mewn diwydiant sy’n hybu amrywiaeth.

Doniau’r Dyfodol

Ar ôl graddio, bwriad Sophie Williams oedd mynd yn athrawes. Yna, gwelodd y lles y mae maethu’n gallu ei wneud i fywydau plant a’u rhieni biolegol, sy’n cael cyfle i roi trefn ar eu bywydau.

Cafodd Sophie brofiad o werth maethu pan ddechreuodd ei mam, Lesley, gymryd plant maeth a gwnaeth hynny iddi benderfynu ceisio bod yn weithiwr cymdeithasol.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes yn adran Faethu Cyngor Rhondda Cynon Taf, cafodd Sophie ei dyrchafu’n swyddog recriwtio rhanbarthol yn ddiweddar. Ei nod yw gwneud Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol. Darparwyd ei phrentisiaeth gan Goleg y Cymoedd,

“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi gael swydd lawn amser, ennill cymwysterau a gweld y llu o wahanol agweddau ar waith cymdeithasol,” meddai.

Connor Paskell o British Airways Avionic Engineering, sydd yn rownd derfynol am wobr Doniau’r Dyfodol.

Mae gyrfa Connor Paskell wedi codi’n uchel ers iddo ymuno â British Airways Avionic Engineering (BAAE) yn Llantrisant.

Roedd Connor, 21, sy’n byw yn Llantrisant, yn benderfynol o gychwyn gyrfa mewn peirianneg ac aeth ar gwrs peirianneg llawn-amser yng Ngholeg y Cymoedd tra oedd yn gweithio rhan-amser mewn meithrinfa.

Talodd ei ymroddiad ar ei ganfed iddo, gan iddo ennill cymhwyster Peirianneg Uwch BTEC â rhagoriaeth ac ennill gwobr Prentis Peirianneg y Flwyddyn yn y Coleg.

Ymunodd Connor â BAAE yn 2018 a disgwylir iddo gwblhau ei brentisiaeth fel peiriannydd awyrennau ym mis Awst. Mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud HNC.

Mae Ryan Harris yn brentis sydd wedi creu argraff ar bawb, gan ysbrydoli peirianwyr y dyfodol a helpu ei gyflogwr i fod yn fwy effeithlon a chanfod a thrwsio diffygion.

Mae Ryan, 21, o’r Ddraenen Wen, Pontypridd, yn brentis technegydd datblygu prosesau gyda chwmni byd-eang Renishaw sy’n gweithio ym maes peirianneg fanwl ar eu safle ym Meisgyn, ger Pontyclun.

Yn ystod ei brentisiaeth, mae Ryan wedi arbed miloedd o bunnau i’r cwmni wrth addasu peiriannau i arbed ynni a gwella prosesau archebu a storio nwyddau.

Ar ôl ennill cyfres o gymwysterau peirianyddol trwy Goleg y Cymoedd, yn cynnwys Prentisiaeth mewn Gosod a Chomisiynu, mae Ryan yn gweithio tuag at HNC Mecanyddol Pearson a drefnir gan Goleg Pen-y- bont.

More News Articles

  —