‘Angen meithrin piblinellau talentau trwy roi cyfle cyfartal i brentisiaethau’

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae un o gyfarwyddwyr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i “feithrin piblinellau talentau” trwy fabwysiadu polisi o gyfle cyfartal a chynnig cymhellion hirdymor i gyflogwyr er mwyn iddynt gofleidio prentisiaethau.

Rheolwyr a Phrentis yn eistedd wrth ei desg

Chwith-Dde: Roger Newman, Prif Weithredwr Target Group, Grant Santos a Paige Nurden, prentis yn Target Group gyda Jayne Bryant AS

Yn ôl Grant Santos, sydd hefyd yn brif weithredwr y darparwr dysgu seiliedig ar waith Educ8 Group, mae’r broses o wireddu potensial prentisiaethau yn dechrau mewn ysgolion, lle mae athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd yn deall ac yn esbonio’r holl ddewisiadau sydd ar gael i ddisgyblion ar gyfer llwybrau gyrfaoedd.

“Pa mor dda allwn ni fod os cofleidiwn ni holl bosibiliadau darpariaethau prentisiaethau? Mae’r potensial bron yn ddiddiwedd,” meddai.

“Dylai pob disgybl a myfyriwr fod yn awyddus i archwilio pob opsiwn â meddwl agored, gan ddewis y llwybr sy’n iawn iddyn nhw. Pe baen nhw’n gwneud hynny, rwy’n gwybod y byddai rhagor o alw am brentisiaethau. Yna, byddai cyflogwyr a Llywodraeth Cymru’n cynnig mwy a mwy o gefnogaeth ac yn creu stori lwyddiant hunanbarhaol sy’n gynaliadwy ac yn lles i bawb.

“Byddai’n golygu bod pawb, o gyflogwyr a gweithwyr i gymunedau a’r economi, yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.”

Gwnaeth Mr Santos y sylwadau hyn yng nghyfres ddiweddaraf Talent Leaders Talking gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth drafod y rhan y gallai prentisiaethau ei chwarae yn sgiliau De-ddwyrain Cymru o hyn ymlaen.

Mae’n nodi bod llai nag 20% o gyflogwyr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn defnyddio prentisiaethau ar hyn o bryd ac yn meddwl tybed a ydynt o dan gamargraff fod prentisiaeth yn llai gwerthfawr na gradd.

“Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i feddwl hynny, nid yn lleiaf gan y gallwch chi wneud y ddau. Gallwch gychwyn fel prentis a symud ymlaen i wneud gradd pan fydd yr amser yn iawn,” meddai.

“Mae llawer o ddysgwyr hyd yn oed yn gwneud gradd i ddechrau ac yna’n uwchsgilio gyda phrentisiaeth. Mae pob math o addysg yn werthfawr a dylid rhoi yr un gwerth iddynt.”

Dywed Mr Santos, a wnaeth brentisiaeth cyn astudio am radd, fod Prentisiaethau Uwch ar Lefelau 4 a 5 wedi cynyddu’n sylweddol. Wrth i’r sectorau Seiber, Technoleg Ariannol a Thechnoleg Feddygol ddatblygu, felly hefyd y gwnaeth prentisiaethau hyblyg.

Roedd yn croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau pob-oed a’r ymrwymiad i’r Warant i Bobl Ifanc ar gyfer pobl 18-24 oed. Fodd bynnag, mae’n ofni bod pobl yn dal o dan gamargraff mai dim ond ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol y mae prentisiaethau. Mewn gwirionedd, mae gweithwyr yn eu defnyddio i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u rhagolygon ar gyfer gyrfa.

“Mae’n anodd llawn sylweddoli gwerth y profiad dysgu a gewch drwy brentisiaeth,” meddai. “Rydych chi’n dysgu wrth weithio ac mae popeth yn gwneud synnwyr oherwydd mae’r hyn rydych yn ei ddysgu yn adlewyrchu realiti’r swydd.

“Yn ogystal â dysgu gan bobl brofiadol, rydych chi’n cael eich talu wrth ddysgu. Mae hynny’n bwysig o ystyried y cynnydd mewn dyledion, benthyciadau myfyrwyr prifysgol a chostau byw cynyddol.”

Er mwyn sicrhau bod prentisiaethau mor gynhwysol â phosibl, dywed ei bod yn rhaid helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd o Brentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) i fyny. Croesawodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob-oed yn ystod tymor presennol y Senedd – cynnydd o 25%.

“Mae Prentisiaethau Sylfaen yn arbennig o bwysig i ddatblygu’r piblinellau talentau y mae arnom eu hangen ar gyfer gofal cymdeithasol a’r sector iechyd,” mae’n pwysleisio. “Mae’r rhain yn swyddi sy’n dod ag urddas i filiynau o bobl y mae arnynt angen gofal ac, yn aml iawn, maent yn newid bywydau’r bobl sy’n cael eu hyfforddi i wneud y gwaith.”

Er bod mwy o’r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau wedi’i chyflenwi’n ddigidol yn ystod y pandemig, mae Mr Santos yn cefnogi dull hybrid o ddysgu, gan ystyried bod hyfforddiant wyneb yn wyneb, sesiynau un-i-un a gweithdai grŵp yn “hanfodol”.

“Dros y blynyddoedd nesaf bydd angen perffeithio’r cyfuniad hybrid: deall yn iawn beth all technoleg ei wneud, a gwrando ar ein dysgwyr a sefydliadau cwsmeriaid am yr hyn sydd orau iddyn nhw.

“Rydyn ni’n deall i ble mae eu busnesau’n mynd, eu prif heriau ar gyfer y 12 mis nesaf a sut orau y gallwn eu cefnogi. Mae hynny’n golygu bod yn bartner dysgu gwirioneddol.

“Beth yw’r pethau sy’n eu dal yn ôl? Beth maen nhw’n dymuno ei gael o’r rhaglenni? Sut y gallwn ni newid ac addasu prentisiaeth fel ei bod yn rhoi mantais gystadleuol iddynt? Os byddwn yn ei wneud yn iawn, mae’n drawsnewidiol.”

Educ8 Training

More News Articles

  —